kowydd y gayaf
1 Afv ddim i farddfin freiddfyw
2 mor elyn i serdd serchddyn syw
3 [860] Ar gayaf oeraf eiroed
4 hirddv kas yn hyrddio koed
5 arvthr i grwydr rrwng dwydref
6 oes r o was tad eiraf yw ef
7 ni bv vn na bai anawdd
8 ganthaw ai hawdd kvddiaw kawdd
9 mewn eira er mwyn aros
10 yrryn ood arrew y nos
11 haws oedd mewn kasdell kelli
12 ar hafnos i haros hi
13 gan glowed tigrifed ton
14 y gog las ddigoeg loession
15 anhebig mewn koedwig mai
16 i chyffvr oed o chaffai
17 rrodio tro yno anvn
18 tan fargod tof ty evrgvn
19 pe rron dranoeth anoethraid
20 ym i chael ame o chaid
21 i dyddyn gweirdy diddos
22 ofn oedd y gayaf nos
23 na ddigonai chwai chwedlfreg
24 engyn ar y dynyn deg
25 glan ymddiddan i ddoeddem
26 glvd gwyn im gloywddeg em
27 gwnaeth fraw frychleidr anghyfrwys
28 a dychryn im gloywdd{yn} glwys
29 kol gylfinbefr goferfwyd
30 [861] y kyffylog llidiog llwyd
31 edyn brych dilewyrchliw
32 o adar gayaf ydiw
33 modd i gwnaeth nid maeth fy myd
34 wrth ben bagyl wrthban bowglyd
35 kychwyn yn braff i drafferth
36 adain bol o din y berth
37 a neittio hyd pan yttoedd
38 mewn perth ddv am ymporth oedd
39 gan faint trwsd grwydyr ar lwydrew
40 dwy ffilog y tayog tew
41 tygessyn ddwyn ddevgwyn ddig
42 trisd oeddem mae trwsd eiddig
43 golesg frys rrwng llys a llwyn
44 gwylld rvthvr peisfrych gwihelldrwyn
45 treiddiai yn ffrom wrth domawg
46 trwy dew ddailx a rrew yrrawg
47 arvthr i chwedl hokedlaes
48 amyl gaer bvarthdail maes
49 ni wyr yn llon ar yfron fry
50 na llais aml na lles ymy
51 na cherdd medd gwych ordderch
52 drwy nen y llwyn er mwyn merch
53 ond arwain dvrddrain meinffrain
54 y bore ydiw a byr adain
55 yr edyn brych ar adain brvdd
56 breibiwr ai adain heb rybvdd
57 [862] y kaffro trog treiglfrych
58 bolldad brath mal alldvd brych
Dauidd ap glim ai kant